1. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol y wlad. Mae awdurdodau’r tri gwasanaeth tân ac achub a’r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
2. Mae’n ceisio cynrychioli’r awdurdodau lleol yn ôl fframwaith polisïau sy’n cyd-fynd â phrif flaenoriaethau ei haelodau. Ar ben hynny, mae’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau sy’n ychwanegu gwerth at faes llywodraeth leol a’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
3. Dyma dystiolaeth WLGA i Ymchwiliad Pwyllgor Materion Diwylliannol, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad ynglŷn â strategaeth newydd Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg.
4. Mae WLGA wedi cyflwyno ei hymateb ysgrifenedig i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru am ei strategaeth newydd, ‘Miliwn o Gymry Cymraeg erbyn 2050’. Er y bydd y strategaeth yn ymwneud ag amrywiaeth helaeth o feysydd, byddwn ni’n canolbwyntio yn y dystiolaeth hon ar y materion mae’r pwyllgor wedi’u nodi, sef:
gwella cynllunio ar gyfer y gweithlu a rhoi cymorth i weithwyr ym mhob rhan o addysg;
gofalu bod y gweithlu’n ddigonol ar gyfer addysg Gymraeg ac i ddysgu’r Gymraeg yn ail iaith.
5. I gyrraedd targed y strategaeth, sef miliwn o Gymry Cymraeg erbyn 2050, rhaid i addysg gyflawni rôl allweddol. Lle nad y Gymraeg yw iaith yr aelwyd, dim ond trwy addysg y daw cyfle i blant ddysgu’r iaith. I’r perwyl hwnnw, bydd yn bwysig gofalu bod digon o allu ac adnoddau yn yr ysgolion Cymraeg i ateb y galw hwnnw. Rhaid ystyried a fydd digon o athrawon yn yr ysgolion Saesneg i gyflwyno’r Gymraeg yn ail iaith, hefyd.
6. Mae gofyn i bob awdurdod lleol sefydlu cynllun strategol ar gyfer addysg Gymraeg a’i adolygu bob tair blynedd. Dylai cynllun o’r fath esbonio’r canlynol:
- suit mae’r awdurdod lleol yn bwriadu gwella’r ffordd o gynllunio ar gyfer addysg Gymraeg, safonau’r addysg honno a dulliau dysgu’r iaith yn ei fro;
- pa dargedau sydd i’w defnyddio i gynllunio’n well ar gyfer addysg Gymraeg yn ei fro yn ogystal â gwella safonau’r addysg honno a dulliau dysgu’r iaith;
- faint sydd wedi’i gyflawni yn ôl targedau’r cynllun blaenorol neu’r un blaenorol diwygiedig – yn arbennig sut mae’r awdurdod wedi asesu’r galw am addysg Gymraeg yn ei fro a pha gamau y bydd yn eu cymryd i ateb y galw hwnnw.
7. Mae’r awdurdodau lleol yn paratoi cyfres nesaf y cynlluniau strategol ar gyfer addysg Gymraeg, ac mae’r gwaith hwnnw wedi’i drafod yn ystod cyfarfodydd cynrychiolwyr WLGA â’r Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a’r Gymraeg.
8. Yn ogystal ag ateb y galw am addysg Gymraeg ac athrawon Cymraeg yn yr ysgolion Saesneg, mae angen creu galw fel y bydd miliwn o Gymry Cymraeg erbyn 2050. I’r perwyl hwnnw, efallai y dylid astudio patrymau dysgu’r Gymraeg yn y boblogaeth er mwyn gweld pwy sy’n llai tebygol o ddysgu’r iaith a pham. Fe fyddai modd mynd ati wedyn i ddatrys unrhyw broblemau a chwalu meini tramgwydd.
9. Os bydd rhagor o alw am addysg Gymraeg, rhaid gofalu y bydd digon o leoedd yn yr athrofeydd i hyfforddi myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â gofalu y bydd digon o athrawon Cymraeg yn yr ysgolion Saesneg.
10. Gallai fod rôl i golegau a phrifysgolion ynglŷn â defnyddio rhagor o Gymraeg ymhlith galwedigaethau eraill megis gweithwyr cymdeithasol, nyrsys a meddygon hefyd.
11. I ofalu bod digon o bobl yn defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth, fodd bynnag, bydd angen mwy na threfn addysg sy’n helpu llawer o ddisgyblion i feithrin medrau iaith da. Mae gobaith y bydd rhagor o blant a phobl ifanc yn dysgu’r Gymraeg ac, os felly, rhaid gofalu y bydd modd defnyddio’r iaith yn y gymdeithas a’r gweithle.
12. I'r perwyl hwn, mae'n hanfodol nodi sefydliadau sy'n gallu helpu'r strategaeth i lwyddo a gofalu y bydd deilliannau ac atebolrwydd eglur. Dylai ffrydiau ariannu gyd-fynd â'i gilydd a bod yn gynaladwy dros y tymor canolig a hir.
13. Rhaid ystyried ffyrdd o gynnig rhagor o gyfleoedd i oedolion ddysgu neu wella, hefyd.
14. Gallai fod rôl bwysig i’r awdurdodau lleol ynglŷn â helpu pobl i ddysgu’r Gymraeg neu wella eu medrau trwy gynnig cynlluniau dysgu yn y gwaith. Bydd hynny, yn ei dro, yn helpu’r awdurdodau i gynnig rhagor o wasanaethau dwyieithog.
15. Mae WLGA yn cefnogi’r bwriad i lunio strategaeth hyrwyddo’r Gymraeg dros y tymor hir. Mae’r targed – miliwn o Gymry Cymraeg erbyn 2050 – yn un uchelgeisiol iawn ac fe fydd angen newid agweddau, dewisiadau/trefniadau addysgol a gwasanaethau yn fawr ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat er mwyn ei gyflawni. Bydd angen neilltuo digon o adnoddau ar gyfer y strategaeth, hefyd. Fe fydd yn hanfodol i’r strategaeth adnabod a chydnabod yr amrywio ledled y wlad ynglŷn â nifer y siaradwyr a gallu pob ardal i gynyddu nifer neu ganran y Cymry Cymraeg yn ei phoblogaeth.
16. Mae WLGA yn croesawu’r cyfle i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor. Mae’n gobeithio y bydd ei sylwadau o gymorth iddo.
Mae rhagor o wybodaeth gan:
Rachel Morgan, Swyddog Polisïau WLGA